close

Gardd Heddwch Wcráin

Mae Gardd Heddwch Wcráin wedi ei dylunio gan y dylunydd sydd wedi ennill sawl gwobr, Peter Lloyd , gyda’r bwriad parchus o ddod a dipyn bach o Wcráin i Lerpwl ar gyfer pobl leol, Wcreiniaid sydd wedi eu dadleoli ac ymwelwyr i’w mwynhau yn ystod Cystadleuaeth Cân Eurovision 2023.

Mae cymuned Wcreiniaid Lerpwl wedi helpu ysbrydoli dylunio’r ardd er mwyn sicrhau fod y darn terfynol yn ddilys. Hyrwyddwyd yr ymgynghoriad ar y dylunio gan gefnogaeth amhrisiadwy Cangen Lerpwl o Association of Ukrainians in Great Britain (AUGB) a Big Help Project.

Nod yr ardd yw darparu man gwyrdd heddychlon ac atyniadol lle gall defnyddwyr fynd i ymlacio a myfyrio. Y prif ddylanwadau o Wcráin yw’r llwybr troed ysgubol gyda phafin clytiog, y plannu synhwyraidd, sy’n cynnwys perlysiau meddyginiaethol traddodiadol, rhandiroedd gyda llysiau tymhorol, yn ogystal â darnau celf ar ffurf mosaig bwrpasol. Mae’r ardd hefyd yn cynnwys ffynnon ofuned, lle mae dŵr yn cael ei gynrychioli gan blanhigion blodeuol, a dau fwrdd gwyddbwyll concrid gyda seddau, fel gall ymwelwyr ddianc o gyffro’r byd a chwarae gêm o wyddbwyll.

Mae plant o St Vincent de Paul Catholic Primary School gerllaw wedi helpu creu darnau addurnol a myfyriol a fydd yn cael eu harddangos yn yr ardd. Mae grwpiau gerddi cymunedol yn yr hyb eco, Roots in the City, sydd hefyd wedi ei leoli yn Nhriongl y Baltig, wedi’u cynnwys i dyfu llysiau a pherlysiau.

Fe fydd cyfranogiad ac ymgysylltiad cymunedau lleol o Wcráin a’r Triongl Baltig yn creu gardd llawn bywyd, ddeniadol yng nghymuned canol y ddinas yma a darparu man gwyrdd ar gyfer lles corfforol a meddyliol.

Mae Baltic Triangle Area CIC yn cyllido’r prosiect hwn yn dorfol, felly os ydych chi’n gallu cyfrannu, dangoswch eich cefnogaeth drwy glicio ar y ddolen hon.

https://www.justgiving.com/crowdfunding/baltictriangle-sensorygarden?utm_term=gdYPprKxe

Cefnogir â balchder gan